Pennod Blaenorol: Y Promenâd
Bennod Nesaf: Eglwysi
Twristiaeth
Cynyddodd twristiaeth ar ôl dyfodiad y rheilffordd, er i’r diwydiant fodoli mor fuan â 1766 gydag ymwelwyr a masnach morwrol yn cyfrannu at ffyniant a llwyddiant Y Bermo. Yn yr un flwyddyn, mewn arwerthiant yn Nolgellau roedd tŷ heb denant o'r enw Barmouth House uwchben y cei ar werth. Fe’i disgrifiwyd fel “tŷ hyfryd i deulu ar gyfer tymor yr haf ar gyfer ymdrochi yn y môr”. Ai Gwesty'r Barmouth Hotel yw’r tŷ tybed? Pan gloddiwyd y ffordd ychydig flynyddoedd yn ôl daethpwyd o hyd i wal cei o dan y ffordd y tu allan i'r Gwesty; roedd y cei wedi'i leoli ar hyd Stryd yr Eglwys bryd hynny. Mae iaith yr hysbyseb hwn yn dangos bod twristiaeth yn cael ei hystyried yn bwysig bryd hynny. Erbyn 1795 daeth mwy o lety ar gael pan agorwyd y Corsygedol Arms. Ar yr un pryd adeiladwyd y rhan fwyaf o'r dref (Hen Bermo erbyn hyn) ar y graig, llawer o fythynnod bychain wedi eu hadeiladu mewn haenau ac yn syllu dros y rhai oddi tanynt, gyda llwybrau bychain yn cysylltu pob un ohonynt. Roedd yn debyg i Gibraltar a rhannau o Gaeredin. Roedd hyn wedi swyno ymwelwyr i'r dref.

Cors y Gedol 1859
Cors y Gedol 1885

Sylwyd bod y merched yn y 18fed ganrif yn fwy diwyd na'r dynion. Roedd merched yn cyfrannu yn fawr at weithgareddau masnachol y dref, a oedd yn ehangu. Roedd llawer o wŷr a meibion i ffwrdd ar y môr felly gadawyd y merched i fwrw ymlaen â busnes y dref. Yn ystod cyfnod y Corsygedol Arms, disgrifiwyd y dref fel un a oedd â siopau ffasiynol a dau neu dri o westai mawr, a'r Corsygedol oedd y mwyaf poblogaidd ohonynt, gyda'r brif stryd wedi'i gorchuddio gan wely o dywod dyfnder bigwrn.
Ni effeithiodd dyfodiad y rheilffordd ar unrhyw newid uniongyrchol ar y dref. Cadwodd Y Bermo ei hymwelwyr arferol i ddechrau ond profodd y dref amseroedd caled gyda dirywiad adeiladu llongau ac yna tua 10 mlynedd ar ôl codi’r bont darganfuwyd cnwd toreithiog o’r llwylys cyffredin ar lannau’r Fawddach. Cynyddodd y newyddion am hyn nifer yr ymwelwyr yn enwedig y rhai â chlefyd y sgyrfi. Byddent yn dod i ddefnyddio'r perlysiau a derbyn budd baddonau dŵr môr poeth ac oer yn y baddondy - Y Bath House (nawr y caffi mawr ar y tywod wrth y cei). Roedd peiriannau ymdrochi a dynnwyd gan geffylau ar gael yn yr 1860au. Mae'n debyg eu bod wedi'u gyrru wysg eu cefnau i mewn i ganiatáu i'r ymdrochwr newid ac ar ôl gorffen eu tynnu'n ôl allan i'r traeth, gan warchod gwyleidd-dra yr ymdrochwyr. Adeiladwyd llawer o'r adeiladau mawr o faen o amgylch y dref yn ystod y cyfnod hwn wrth i'r dref brysuro. Yn 1880 mae Slater's Directory of North and South Wales yn disgrifio'r dref fel un sy'n cynnwys 3 gwesty (Barmouth Hotel, y Corsygedol a'r Lion) a 4 tafarn (yr Anchor, yr Henblas, y Last Inn a'r Half Way yn Bontddu), 3 o rhain yn cael eu rhedeg gan ferched. Roedd yna hefyd 2 westy dirwest ac ystafell ymgynnull. Mae'r cyfeiriadur hefyd yn rhestru 113 o Geidwaid Tai Llety, digonedd o fasnachwyr a siopwyr, 2 fanc a 13 o berchnogion cychod pleser. Dengys hyn bod twristiaeth yn gref ar y pryd. Byddai Ynys Y Brawd yn cael ei foddi gan ymwelwyr oedd yn cael eu cludo ar draws y sianel gul.

Henblas Inn 1872

Ymdrochi 1895
Baddondy y Bath House 1923

Cerdyn post 1913

Parhaodd twristiaeth hyd yr 1900au gyda Bermo yn cynnig llawer o’i phrif atyniadau. Agorodd Rheilffordd y Friog a’r fferi o'r Bermo ac yna taith o Drwyn Penrhyn i'r pentref. Ar y dechrau roedd y cerbydau'n cael eu tynnu gan geffylau cyn cael eu disodli'n ddiweddarach gan locomotifau stêm lein gul. Byddai grwpiau adloniant yn ymweld â'r ardal yn flynyddol ac yn cynnal sioeau. Byddai rhai yn gosod llwyfannau awyr agored ac yn diddanu ar y traethau neu'r promenâd. Roedd adeilad mawreddog o'r enw y Pafiliwn yn bodoli lle saif y ffair bleser heddiw. Cynhaliwyd cyngherddau yno ac yna daeth sinema yno. Rhwng 1931 a 1932 roedd papurau newydd yn adrodd y canlynol am y dref:
St. James Budget –“ Llain o wlad sydd a phrydferthwch heb ei thebyg.”
Y Byd – “Prydferthwch cyntaf Abermaw yw’r Bont ar draws yr Aber. Nid oes promenâd o’r fath ledled Ewrop… ardal ddelfrydol.”
Manchester Guardian – “Rydych chi’n clywed llawer o gymhariaeth yn cael ei wneud rhwng Cymru a’r Swistir, a phan fo’r Panorama Walk o’r Bermo dan sylw nid yw’r gymhariaeth yn cael ei gorfodi, ac nid oes angen unrhyw ymddiheuriad ar gyfer y Cefn Gwlad Cymreig.”
Sheffield Daily Guardian – “Yr aber hyfryd hwnnw – sy’n rhan o sŵyn Y Bermo – … Un o’r lluniau gorau o Ewrop yw Aber Y Bermo.”
Darlun y Fonesig – “Prin y gall Cymru hyfryd frolio llecyn mwy swynol na’r Bermo hardd”
Western Daily Press, Bryste – “Mae’r Bermo yn ffefryn gan ddosbarth dethol o ymwelwyr sy’n mynd yno flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ychwanegir at ei sŵyn gan ei deithiau cerdded heb eu hail a’i olygfeydd mynyddig digymar.”
Westminster Gazette – “Mae Abermaw yn y gaeaf mor heulog â Bermuda ac mor gynnes. Er bod pobl hyd yn hyn - yn enwedig y rhai y mae heulwen y gaeaf yn fywyd iddynt - prin yn sylweddoli hyn, anaml y mae'r tymheredd yn llai na 40 gradd, tra bod y golygfeydd mor berffaith ag y gall fod.”
Cofnod Gwerthwyr Tir -“Mae’r cyfuniad digyffelyb o fynydd a dyffryn, rhostir a rhaeadr, afon ac aber, sydd wedi dwyn edmygedd sawl ymwelydd ac wedi denu Awduron, Arlunwyr, Gwyddonwyr, a Naturiaethwyr, i’r ‘Rhine Gymreig’, gyda'i gysylltiad gwych - 'yn newid yn barhaus, yn newydd erioed' - wedi bod yn thema ddiddiwedd ers blynyddoedd lawer.”
Nottingham Guardian – “Yr yswiriant gorau yn erbyn salwch yw wythnos yn y Bermo. Mae Abermaw yn ganolfan heb ei hail ar gyfer gweld holl leoedd siroedd Gogledd Cymru. Bydd gwibdaith undydd yn mynd â’r ymwelydd i ben y mynyddoedd enwog hyn: Cader Idris, Pumlumon, Moelwyn, Diffwys, yr Wyddfa, a’r ddwy Arran.”
TP’s Weekly – “Mae’r Bermo yn rhoi ymdeimlad gwych o orffwys i chi. Mae'r clogwyni yn gysgod oddi wrth gwyntoedd y dwyrain. Roedd Turner wrth ei fodd â’r ardal ac fe beintiodd lawer o gwmpas y lle.”
Y Byd Cristnogol – “Anaml y mae’n rhewi yn Y Bermo, ac anaml y mae eira’n parhau wedi disgyn. Y mae y gaeaf yn hwyr iawn yn dod yma ac yn fwyn iawn ar y cyfan. Mae'r dref yn agored i'r môr a'r haul i'r de a'r gorllewin. Mae blodau gwyllt yn para o'r gwanwyn i'r gwanwyn. Pe bai pobl ond yn gwybod sut brofiad y mae Bermo yn ei gynnig trwy’r wythnosau sy’n ddrwg i’w dioddef mewn mannau eraill, byddai’r rhan fwyaf ohonynt yn peidio dianc i Dde Ffrainc ac yn ceisio’r Bermo.”
Fel y gallwn weld, roedd y Bermo yn lleoliad gwirioneddol ddymunol i rhai ledled y Deyrnas Unedig. Trawsnewidiodd agor y promenâd newydd a’r amddiffynfeydd môr olwg a theimlad y dref ar hyd y lan. Dechreuodd meysydd gwersylla ehangu gan ddarparu cyfleusterau gwersylla sylfaenol i ddechrau, i safleoedd gyda siopau, pyllau nofio, adloniant, tafarndai, caffis a bwytai ar eu safleoedd heddiw.

Rhodfa’r Môr 1913

Yn ystod yr haf 1934

Gwersylla 1936
Ym 1958 troswyd Capel ar Heol y Jiwbilî yn Theatr y Ddraig, lleoliad arall ar gyfer sioeau a chyngherddau. Cododd lletai gwely a brecwast o gwmpas y dref ac agorodd llawer o gaffis a thafarndai. Adeiladwyd sarn drosodd i Ynys Y Brawd wedi i nifer o bobl foddi yn y sianel a arferai redeg rhwng y traeth a’r ynys. Hwylusodd hyn fynediad i’r ynys i gerddwyr ond rhwystrodd y sianel ac y mae llawer yn beio hyn am y siltio yn yr harbwr heddiw. Ar un pryd roedd gan Y Bermo ffeiriau pleser mewn dau leoliad gwahanol, yr un presennol ac un ar y prif faes parcio. Cynhaliwyd Regatas Blynyddol a ddenodd lawer o dwristiaid i'r ardal. Yna profodd y dref ddirywiad gan gael enw am fod yn fan gwyliau het “kiss me quick”, sef man gwyliau rhad gyda siopau ar y stryd fawr wedi eu bordio, gwestai ar gau a llawer o siopau elusen yn llenwi’r stryd. Fodd bynnag, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf diolch i fuddsoddiad ac arloesedd pobl busnes lleol a chyngor tref gweithgar sy'n cefnogi ac yn cynnal llawer o ddigwyddiadau, mae’r Bermo wedi gweld adfywiad. Mae’r stryd fawr bellach yn llawn o siopau safonol, mae’r tafarndai a’r gwestai i gyd wedi’u hadnewyddu ac mewn rhai achosion wedi’u hailagor. Gall Y Bermo ymfalchïo mewn bwytai o’r safon uchaf a’r cogyddion gorau.
Pennod Blaenorol: Y Promenâd
Bennod Nesaf: Eglwysi
