Pennod Blaenorol: Y Bont
Bennod Nesaf: Twristiaeth
Y Promenâd
Ym 1924 tarodd tswnami bach Y Bermo gan beri llifogydd ar hyd Marine Parade, Teras Wellington a'r ardal lle mae Stad y Cyngor heddiw. Bu llifogydd helaeth hefyd ar hyd y Fawddach gyda llawer o Arthog dan ddŵr.
Digwyddodd llifogydd pellach ym 1927 a difrodwyd amddiffynfeydd môr elfennol yn ddifrifol. Difrodwyd llawer o'r promenâd hefyd a phenderfynwyd adeiladu amddiffynfeydd môr priodol a phromenâd newydd i'r Bermo.

Tsunami 1924

Difrod storm 1927

Difrod storm 1927
Ym 1928 rhoddwyd prosiect adeiladu helaeth ar waith. Yn wreiddiol roedd y promenâd yn mynd cyn belled â Gwesty'r Arbor / Marine Mansions / Sandbanks Hotel ond byddai'r prom newydd yn ymestyn ymhellach i'r gogledd. Defnyddiwyd gweithwyr lleol ond daeth llawer o'r gweithlu o dde Cymru. Roedden nhw’n fodlon gweithio am lai o arian na’r bobl leol ac achosodd hyn dipyn o drafferth.

Seiri maen 1928

Seiri maen lleol 1930
Bu'n rhaid symud cymaint o gerrig a thwyni tywod fel y codwyd rheilffordd bwrpasol a oedd yn rhedeg ar hyd y prom. Erbyn 1933 roedd y gwaith wedi'i gwblhau a daeth y cyn Brif Weinidog David Lloyd George i'r Bermo, gyda'i wraig, i agor yr amddiffynfeydd môr a'r promenâd newydd.

Paratoi caledwedd

Gosod trac trên yn 1930

Trên y morglawdd 1930

Clirio twyni 1930

Adeiladu’r Prom 1931

Adeiladu’r Prom 1931

Lloyd George yn agor y Prom 1933

Y Prom newydd 1933
Pennod Blaenorol: Y Bont
Bennod Nesaf: Twristiaeth
