top of page
Barmouth-Town-Council-Logo.png

Pennod Blaenorol: Morwrol

Bennod Nesaf: Y Promenâd

Y Bont

Dechreuwyd adeiladu Pont y Bermo ym 1864 a chafodd ei chwblhau ym 1867 gan agor ar Mehefin 3ydd y flwyddyn honno i gerbydau ceffyl ac ar Hydref 10fed i locomotifau. Fe'i cynlluniwyd ac adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru i greu lein o Aberystwyth i Bwllheli. Adeiladwyd y bont yn wreiddiol gyda 113 o rychwantau pren ac 8 rhychwant haearn. Roedd adran “cock and draw” yn agos i ochr y Bermo. Pwrpas y rhan hon oedd i’r bont godi i adael i longau fynd i mewn ac allan o'r aber. Y gŵr doeth y tu cefn i’r bont oedd Thomas Savin, entrepreneur Cymreig. Roedd y gwaith adeiladu yn anodd oherwydd cerrynt cryf y Fawddach ac fe foddwyd dau ddyn yn ystod y gwaith adeiladu.

4-01.jpg

Adeiladu'r draphont 1866

4-02.jpg

Cock and Draw 1880

Ar ôl darganfod bod y darnau haearn wedi cyrydu'n ddifrifol ym 1899, codwyd dau rychwant dur gydag un yn bont siglen fel bod llongau yn parhau i basio drwodd.

4-03.jpg

Rhychwant Agored 1957

4-05.jpg

Cadwaladr Williams 1987, , cwch diogelwch, y tro diwethaf i'r bont gael ei hagor.

Yn 1941 serennodd y bont mewn ffilm o'r enw Ghost Train gydag Arthur Askey, er i’r ffilm gael ei gosod yn Fal, Cernyw. Roedd y stori'n ymwneud â thrên ffug a fyddai'n rhedeg trwy'r orsaf a thros y bont. Roedd y trên yn y ffilm i fod yn grŵp o smyglwyr arfau yn rhedeg gynnau i’r Natsïaid. Uchafbwynt y ffilm oedd y trên yn disgyn oddi ar y bont swing ac i mewn i'r môr. Adeiladwyd model o’r bont ar gyfer yr olygfa hon gan dad i gigydd lleol.

Ym 1980 darganfuwyd fod mwydod Teredo wedi turio i bren y bont, a bod y tyllau a grëwyd ganddynt yn fawr ac angen eu trwsio. Byddai'r prosiect hwn yn cymryd pum mlynedd a hanner ac atalwyd pob trên rhag croesi'r bont am y cyfnod hwn. Ailagorodd y bont i drenau ym mis Ebrill 1986 ac yna ym 1987 agorwyd y bont siglo rhychwant dur am y tro olaf. Mae Pont y Bermo yn dal i fod yn un o draphontydd pren hiraf Prydain.

4-06.jpg

Pont yn 1889

4-07.jpg

Y Bont fel yr ydym yn ei hadnabod yn awr - 1958

Gwelodd adeiladu'r bont ddirywiad mewn adeiladu llongau ond cynnydd aruthrol mewn twristiaeth. Yn 1865 adeiladwyd Cyffordd Abermaw, sef Morfa Mawddach i ni heddiw. Roedd Cyffordd Abermaw yn caniatáu i drenau o'r Bermo deithio naill ai i Fachynlleth/Amwythig/Aberystwyth neu Riwabon trwy Ddolgellau, Y Bala a Llangollen. Hyd at yr 1960au roedd gwasanaeth haf o Lundain Paddington i Bwllheli trwy Birmingham a’r Amwythig. Yn sgil toriadau Beeching yn y 1960au caewyd lein Rhiwabon a bellach gelwir yr hen arglawdd rheilffordd i Ddolgellau yn Llwybr Mawddach ac mae’n boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr sy’n dymuno mwynhau’r aber.

Pennod Blaenorol: Morwrol

Bennod Nesaf: Y Promenâd

bottom of page