Digwyddiadau
Mae Cyngor Tref Abermaw yn trefnu sawl digwyddiad trwy gydol y flwyddyn ac yn cefnogi eraill. Am restr llawn o Ddigwyddiadau Bermo gweler tudalen digwyddiadau gwefan Barmouth-Wales.
Bermo Fest

Wrth ail-danio Thema’r Carnifal yn y Bermo, mae Gŵyl Bermo yn cyfuno cerddoriaeth, dŵr a gorymdaith. Yn 2022 cynhaliwyd penwythnos o ŵyl i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines. Yn 2023 cynhaliwyd digwyddiad cerddorol i ddathlu Coroniad y Brenin, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn ailsefydlwyd Gorymdaith y Carnifal ar ôl blynyddoedd lawer. Yn 2024 cafwyd penwythnos o ŵyl gyda gorymdaith carnifal, gŵyl gerddoriaeth a gŵyl ddŵr.
Gŵyl Fwyd a Ffair Grefftau

Mae’r Ŵyl Fwyd yn cynnwys stondinau bwyd a diod ar yr harbwr gyda cherddoriaeth fyw. Mae gan gynhyrchwyr lleol amrywiaeth o offrymau o fwyd a diod i fynd â nhw neu i’w bwyta yn yr ŵyl. Gyda chefnlen o gerddoriaeth gan fandiau lleol mae’n gyfle gwych i fwynhau’r golygfeydd bendigedig a’r cynnyrch lleol. Ar yr un pryd, mae gwneuthurwyr lleol yn cynnig eu crefftau ar werth yn y Ganolfan Hamdden.
Nadolig

Ar ddydd Iau cyntaf mis Rhagfyr cynhelir Siopa Hwyr y Nos Bermo a Chynnau Goleuadau Nadolig. Noson gymunedol hyfryd gyda Chantorion Carolau, Siôn Corn ac ambell wydraid o win cynnes. Cyfle gwych i gefnogi siopau lleol ar gyfer y Nadolig.