
Cyngor Tref Abermaw

Croeso i wefan Cyngor Tref Abermaw. Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y Cyngor, y gwaith rydym yn ei wneud, dogfennaeth a dolenni ddefnyddiol i wefannau eraill.
Hysbysiadau diweddaraf gan y cyngor (cliciwch ar yr hysbysiad am fanylion llawn). Hysbysiadau hyn yma


Mae 13 Cynghorydd wedi eu hetholi gynrychioli Bermo. Mwy o Wybodaeth
Cynghorwyr
Mae'r Cyngor Tref yn cynhyrchu llawer o ddogfennau - agendâu, cofnodion, polisïau a gweithdrefnau yn ogystal ag Adroddiad Blynyddol ac Adroddiadau Archwiliwr. Mwy o Wybodaeth
Dogfennau

Mae’r Cyngor Tref yn trefnu rhai digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, Gŵyl Bermo, yr Ŵyl Fwyd a Chrefft a Chynnau Golau’r Nadolig. Rydym hefyd yn cefnogi digwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill. Mwy o Wybodaeth
Digwyddiadau

Mae’r Cyngor Tref yn ymgymryd â phrosiectau tymor hwy megis y system TCC, y Prosiect Hanes a Tanio Bermo. Mwy o Wybodaeth
Prosiectau

Ffurfiwyd Cyngor Tref Abermaw ar ôl ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974.
Mae gan y Cyngor Tref presennol bwerau a chyfrifoldebau cyfyngedig ond mae'n chwarae rhan gynyddol bwysig yng ngweinyddiad dydd i ddydd y dref. Mae ward Cyngor Tref Abermaw yn cychwyn yn Farchynys ac yn cynnwys Llanaber i gyd ac yn cael ei chynrychioli gan 13 o gynghorwyr. Mae Maer a Dirprwy Faer yn cael eu hethol gan y Cynghorwyr yn flynyddol.
Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai, a chyfarfod arferol ar y 4ydd dydd Mawrth o bob mis, ac eithrio mis Awst (dim cyfarfod) a Rhagfyr (cyfarfod ar yr 2il ddydd Mawrth).Cynhelir cyfarfodydd am 7pm ym Mharlwr Mawr, Theatr y Ddraig. Mae cyfarfodydd yn agored i bob aelod o'r cyhoedd eu mynychu.
Y cyfarfodydd ar gyfer 2026-27 yw:
26 Mai 2026 (CCB), 23 Mehefin 2026, 28 Gorffennaf 2026, 22 Medi 2026, 27 Hydref 2026, 24 Tachwedd 2026, 8 Rhagfyr 2026, 26 Ionawr 2027, 23 Chwefror 2027, 23 Mawrth 2027, 27 Ebrill 2027, 18 Mai 2027 (CCB).