Pennod Blaenorol: Twristiaeth
Bennod Nesaf: Y Dref
Yr Eglwysi a’r Capeli
Ers 1895 mae Eglwys Sant Ioan wedi bod yn ganolig i fywyd y Bermo. Yma mae poblogaeth y dref wedi ymgasglu i ddathlu digwyddiadau pwysig yn eu bywydau sef genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Mae Eglwys Sant Ioan yn gartref i’r gymuned Gristnogol sydd yn parhau i addoli yma pob wythnos ac yn un o’r enghreifftiau gorau o eglwysi modern yng Nghymru; mae llawer o ymwelwyr yn rhyfeddu sut cafodd tref lan y môr fechan yr anrhydedd o gael adeilad mor fawreddog.
Y Santes Fair a Sant Bodfan
Cafodd y Fam Eglwys o’r plwyf hon ei hadeiladu yn gyntaf gan y Sant Celtaidd Bodfan yn Llanaber. Cafodd yr Eglwys yma ei hadeiladu yn y 13eg ganrif a daeth i’w hadnabod fel Eglwys y Santes Fair a Sant Bodfan. Yn y 19eg ganrif roedd Eglwys y Santes Fair yn rhy fach i’r boblogaeth a oedd yn tyfu, felly penderfynwyd yn 1824 adeiladu capel i esmwytho’r baich yn y Bermo ei hun.
Dewi Sant 1865

Y Santes Fair a Sant Bodfan 1872

Dewi Sant
Adeiladwyd Eglwys Dewi Sant rhwng 1824 a 1830 ar hen iard adeiladu llongau. Cafodd yr Eglwys hon yn y Bermo ei chysegru i Dewi Sant, nawddsant Cymru. Fe’i chynlluniwyd gan Edward Haycock i ddal 470 o pobl. Am rai blynyddoedd ar ôl iddi agor roedd lluwchfeydd tywod yn peri problemau mawr i addolwyr ond wrth i’r rheilffordd gyrraedd yn yr 1860au, diflannodd y broblem. Roedd Bermo yn tyfu’n gyflym fel ardal wyliau ers i’r rheilffordd gyrraedd. Roedd hyn yn golygu bod mwy o bobl yn addoli yn Eglwysi y Santes Fair a Dewi Sant. Roedd y ddau adeilad yn llawn a phenderfynodd y Rheithor newydd wneud rhywbeth am hynny.
Sant Ioan
Yn ystod yr 1880au llwyddodd y Parchedig Edward Hughes i berswadio Cyngor Eglwysig y Plwyf i gytuno bod angen adeiladu eglwys newydd er mwyn datrys y broblem o ormodedd o gynulleidfa yn y ddwy eglwys. Roedd y Parchedig Edward Hughes yn gwybod fod gan lawer o ddyngarwyr cyfoethog dai gwyliau yn y Bermo ac hefyd eu bod yn barod i roi cyfraniadau i’r Eglwysi fel y dangoswyd yn yr 1850au a’r 60au gyda gwaith atgyweirio yn Eglwys y Santes Fair. Byddai un teulu cyfoethog yn arbennig yn amlygu eu hunain fel un o’r prif roddwyr i’r gronfa. Y teulu yma oedd yn berchen ar Blas Mynach ac roedd y teulu’n defnyddio’r adeilad fel encil gwyliau o’u bywydau prysur yn Swydd Gaerwrangon. Y teulu hwn oedd Perrins o Worcestershire Sauce enwog Lea & Perrins.
Roedd gan y teulu Perrins y gallu i roi nawdd i adeiladu eglwys fawr. Yn ystod yr 1880au roedd y môr wedi symud i fyny i’r rheilffordd, a olygai nad oedd llawer o dir ar ôl. Roedd y teulu Perrins hefyd wedi rhoi dipyn o dir a brynwyd ganddynt blynyddoedd ynghynt. Ond, roedd y tir yn edrych i lawr ar y dref a byddai adeiladu eglwys yno’n anodd. Cynhaliwyd cystadleuaeth yn y Cylchgrawn Adeiladu Cenedlaethol i ddewis y cynllun. Yr enillwyr oedd Mr John Douglas a Mr Daniel Fordham o Gaer ac roedd yn gweddu i’r hyn yr oedd y Parchedig Hughes eisiau fel eglwys newydd – adeilad mawr a gosgeiddig.
Cyn i’r gwaith ddechrau ar y prosiect cynhaliwyd seremoni fawreddog wedi ei chynllunio i osod y garreg sylfaen. Y gobaith oedd gofyn i’r Frenhines Victoria osod y garreg sylfaen gan ei bod yn teithio trwy ogledd Cymru yn 1889. Yn anffodus nid oedd y Frenhines Victoria ar gael felly anfonodd ei merch (ei ffefryn – yn ôl pob sôn) sef y Dywysoges Beatrice o Battenberg i osod y garreg. Dechreuodd y seremoni pan gyrhaeddodd y Dywysoges y Bermo ar y rheilffordd, ac yna bu Gorymdaith Fawreddog i fyny i safle yr Eglwys newydd lle gosodwyd y garreg.
Y Dywysoges Beatrice yn gosod y garreg sylfaen
Y Tŵr wedi disgyn

Un o’r cystadleuwyr anfuddugol


Roedd y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n dda. Erbyn 1891, bron i ddwy flynedd ers dechrau’r prosiect, roedd y tŵr bron wedi ei gwblhau ac roedd y toeau yn barod i dderbyn llechi. Wedyn, ar noson yr 11eg o Fedi 1891, disgynnodd y tŵr i mewn i’r adeilad oddi tano gan ddinistrio’r to a rhai waliau. Roedd y penseiri’n meddwl mai ffrwydro’r garreg y tu ôl i’r Eglwys, i gael mwy o olau, efallai, oedd yr achos. Dechreuodd y Parchedig rownd newydd o godi arian i orffen yr Eglwys. Rhoddodd Mrs Perrins y gweddill o’r arian i orffen y gwaith ac i wasanaethu fel cofeb i’w gŵr, James Dyson Perrins. Cwblhawyd yr eglwys yn 1895 a cafodd ei chysegru ar 18fed o Ebrill 1895.
Sant Tudwal
Yn yr 1800au bychan iawn oedd nifer y Catholigion yn y Bermo ac arferent addoli yn nhai ei gilydd. Roedd Cymdeithas yr Iesu (Pabaidd) gyda man gwyliau yn y Bermo yn yr 1870au a’r 1880au ac yn gwahodd y Catholigion o’r Bermo i ymuno â hwy yn eu haddoliad. Yn 1884 penodwyd Y Parchedig Thomas Donovan i’r Genhadaeth yn y Bermo. Cychwynnodd godi arian i adeiladu adeilad parhaol ac erbyn 1891 roedd cwt tin wedi ei adeiladu yn Heol y Parc a’i enwi yn Sant Tudwal – sant lleol. Dywedwyd ei fod wedi ei agor ar yr un diwrnod ag y dymchwelodd tŵr Sant Ioan sef 11eg Medi. Adeilad dros dro oedd hwn i fod a pharhawyd i godi arian tuag at y nod o gael adeilad parhaol. Yn 1904 gosodwyd y garreg sylfaen i Sant Tudwal ar Ffordd y Brenin Edward. Gorffennwyd yr eglwys yn 1905 am gost o £5,041. Hon oedd yr Eglwys Gatholig gyntaf i’w hadeiladu ym Meirionnydd ers y Diwygiad. Adeiladwyd yr eglwys gyda gwenithfaen Minffordd gyda thywodfaen melyn Cefn yn harddu’r adeilad.

Sant Ioan a Neuadd yr Eglwys

Sant Tudwal
Ni fyddai’n briodol i ni sôn am eglwysi a chrefydd heb sôn am yr holl gapeli yn y Bermo ac o’i gwmpas. Roedd y capeli yn fangre addoli i’r enwadau eraill gyda llawer ohonynt yn cael defnydd gwahanol rŵan, ond yn eu hamser yn llefydd pwysig a phrysur i’r trigolion lleol ymgynnull i addoli. Ewch am dro o gwmpas y Bermo a byddwch yn adnabod yr adeiladau nodedig hyn.
Ym 1893 adeiladwyd Capel y Methodistiaid yn Ffordd y Parc. Cafodd ei ail adeiladu yn 1915 a defnyddir yr adeilad rŵan fel man cadw ceir gan garej leol.
Caersalem
Yn 1825 adeiladwyd Capel Methodistiaid Caersalem ac yna ei werthu i’r rheilffordd tua 1865. Adeiladwyd capel newydd ar y stryd fawr yn 1866 a’i ehangu yn 1911. Mae’r adeilad rŵan yn siop ddodrefn a chelfi cartref chwaethus.
Capel Annibynwyr Saesneg y Bermo
Adeiladwyd Capel Annibynwyr Saesneg y Bermo tua 1897. Heddiw mae’r adeilad wedi ei drawsnewid yn Theatr y Ddraig ar Stryd Jiwbili.

Caersalem 1864

Caersalem 1963
Capel Annibynwyr Saesneg y Bermo 1958

Siloam
Yn 1828 adeiladwyd Capel Siloam yn Sgwâr St Anne ar Ffordd y Traeth. Fe’i ail adeiladwyd yn 1870. Mae Siloam yn dal i sefyll heddiw ond yn gwerthu nwyddau traeth a phob math o nwyddau gwyliau.
Capel Seion y Bedyddwyr, Bermo
Adeiladwyd Capel y Bedyddwyr yn y Bermo yn 1876. Saif y Capel rhwng y Siop Flodau a’r Caffi ar Ffordd y Traeth, gyferbyn â Siloam. Mae Seion, erbyn heddiw, yn gwerthu nwyddau traeth fel Siloam.
Capel Ebenezer
Adeiladwyd Capel Methodistiaid Ebeneser yn 1806 ac yna ei ail adeiladu yn y dull Gothig. Addaswyd y tu fewn, gosodwyd organ, ac archebwyd tir ar gyfer Ysgol Sul yn 1880. Gwelir yr adeilad ar y stryd fawr heddiw fel caffi a siop a elwir yn Ebenezers.
Eglwys Crist
Adeiladwyd Capel Methodistiaid Eglwys Crist yn 1878 ac fe’i adnabuwyd yn wreiddiol fel Eglwys Crist y Presbyteriaid Saesneg a Chapel y Methodistiaid Calfinaidd. Mae’r Capel hwn ar y stryd fawr ac yn parhau fel addoldy heddiw. Tan yn ddiweddar arferai’r Capel groesawu cyn-aelodau Siloam i wasanaethau cyfrwng Cymraeg. Mae grwpiau’r Geidiau, Brownies, a Rainbows yn cyfarfod yn yr ystafelloedd uwchben y Capel.



Siloam 1911
Capel Ebenezer 1881
Eglwys Crist 1935
Capel Parsel
Capel i’r Methodistiaid Calfinaidd oedd Capel Parsel yn Llanaber a adeiladwyd yn 1800, nepell o’r fynwent, ar ochr y Bermo. Heddiw mae’n dŷ preifat.
Sant Philip
Saif Sant Philip oddi ar y ffordd rhwng Bermo a Bontddu. Mae’n rhan o Stad Caerdeon ac fe’i adeiladwyd gan y perchennog yn 1862 er mwyn cynnig addoliad yn y Saesneg. Bu’r cam hwn yn ddadleuol iawn mewn ardal mor Gymreig. Aethpwyd â’r perchennog i Lys yr Arches gan Reithor Llanaber a wrthododd gynnal gwasanaethau yn y Saesneg. Enillwyd yr achos gan bod y ddeddf yn glir mai Cymraeg oedd iaith addoli mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith. O ganlyniad, cyflwynodd Esgob Bangor fesur arbennig yn Nhŷ’r Arglwyddi oedd yn caniatáu, yn gyfreithlon, gwasanaethau Saesneg mewn ardaloedd Cymreig eu hiaith sef Deddf Gwasanaethau Saesneg yng Nghymru 1863. Cysegrwyd yr eglwys yn 1875. Trwyddedwyd yr adeilad fel eglwys breifat at ddefnydd perchennog Stad Caerdeon a roddodd ganiatâd i israddedigion Rhydychen ei defnyddio pan oeddynt yn aros ar y stad.
Capel Methodistiaid Calfinaidd Moreia
Adeiladwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Moreia yng Nghaegwian ar y bryniau ar gyrion y Bermo yn 1865. Defnyddid y Capel hwn gan ffermwyr yr ardal a’r Ysgol Sul gan eu plant.

Sant Philip 1863

Ysgol Sul Caergwian gyda’r teulu Roberts, Cae Tudur a’r teulu Williams Tyddyn y Pandy

Cutiau 1913
Cutiau
Cychwynnwyd yr achos annibynnol (yr Annibynwyr Rhydd) yng Nghutiau yn y 1770au ond ni adeiladwyd y Capel hyd 1806 , a’i enwi yn Gapel y Cutiau. Atgyweiriwyd y Capel yn 1866 ac fe’i adnewyddwyd yn 1912. Roedd ffermwyr y cyffiniau ynghyd â brodorion y cwm yn addoli yng Nghutiau. Lleolir y Capel uwchben Melin Glandŵr ac mae heddiw yn dŷ preifat. Fodd bynnag, cynhaliwyd gwasanaethau yno hyd 1995 gyda’r teulu Williams (Tyddyn y Pandy) yn gofalu am y Capel ac yn mynychu’r gwasanaethau.
Pennod Blaenorol: Twristiaeth
Next Chapter: Y Dref