Pennod Blaenorol: Y Dref
Bennod Nesaf: Mythau a Chwedlau
Pobl Nodedig
Siaspar Tudur
Roedd Siaspar Tudur yn ewythr i Harri Tudur, a ddaeth yn ddiweddarach yn Harri VII. Yn y 1460au, credir i Gruffydd Fychan o Gors y Gedol, cefnogwr y Lancastriaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, adeiladu Tŷ Gwyn (cartref presennol Amgueddfa’r Gloch Efydd) fel lle diogel i Siaspar Tudur gyfarfod yn gyfrinachol â chefnogwyr eraill o Wynedd. Roedd lleoliad Tŷ Gwyn yn ffortunus, gan ei fod yn cynnig dihangfa hwylus i’r môr pe bai angen hynny. Ymddengys felly i’r Bermo chwarae rhan yng nghynllwyniau a chynlluniau brenhinoedd a’u rhyfela.
Y Rhamantwyr
Ymwelodd Percy Bysshe Shelley â’r Bermo yn 1812, yng nghwmni ei wraig.
Mi arhosodd yr Arglwydd Byron yn y Bermo hefyd.
Tra’n ymweld â’r Bermo, ysgrifennodd William Wordsworth: “gyda golygfa hyfryd o’r môr o’i blaen, y mynyddoedd tu cefn a’r aber godidog yn ymestyn wyth milltir i mewn i’r tir a Chadair Idris o fewn taith gerdded diwrnod, gall tref y Bermo ddal ei thir yn erbyn unrhyw gystadleuydd”. Arhosodd Wordsworth yn y Bermo yn 1824.
Alfred Lord Tennyson. Ysgrifennodd y Bardd Llawryfog ran o’i gerdd "In Memoriam" tra’n ymweld â’r Bermo yn ystod 1839. Credir hefyd i aber y Mawddach ysbrydoli’r gerdd "Crossing the Bar".
Ysgrifennodd John Ruskin: “Yr unig daith sy’n rhagori ar y daith o’r Bermo i Ddolgellau, yw’r daith o Ddolgellau i’r Bermo”. Arhosodd Ruskin yn y Bermo ac mae rhes o fythynnod ar y graig uwchben y dref â adnabyddir fel Bythynnod Ruskin. Rhoddwyd y tai i Ruskin a’i Urdd San Siôr gan Fanny Talbot yn 1874, hynny am gydnabyddiaeth o £1000. Roedd y bythynnod i’w defnyddio fel rhan o arbrawf cymdeithasol Ruskin i gynnig cartrefi i’r tlawd a thrwy hynny arbed yr ysbryd o chwyldro yn eu plith.
William Wordsworth


Alfred Lord Tennyson

John Ruskin

Charles Darwin
Bu Charles Darwin yn y Bermo am ychydig ddyddiau yn 1831 tra ar ei daith trwy ogledd Cymru yn casglu fflora a ffawna a rhoi astudiaeth o’r ddaeareg leol ar waith. Yn ddiweddarach, yn 1869, daeth Darwin a’i deulu yn ôl gan aros yng Nghaerdeon, ychydig y tu allan i’r Bermo. Arhosodd yma am nifer o wythnosau yn adolygu y pumed argraffiad o’i lyfr enwog, On the Origin of Species. Dyma’r tro olaf iddo ymweld â’r Bermo.
Ganwyd Fanny Talbot yn Bridgwater, Gwlad yr Haf yn 1824. Priododd George Tertius Talbot, llawfeddyg, a bu’r ddau fyw, y rhan fwyaf o’r amser, yn Bridgwater, tan ei farwolaeth yn 1873. Defnyddiodd Fanny ran o’i hetifeddiaeth i brynu Tŷ’n y Ffynnon ynghyd ag ychydig o dir a nifer fach o fythynnod ar y graig uwchben y Bermo. Rhoddodd Fanny Talbot rai o’r bythynnod i John Ruskin, i’w defnyddio fel rhan o’i Arbrawf Cymdeithasol. Daeth y ddau yn dipyn o ffrindiau gan gyfathrebu â’i gilydd yn rheolaidd. Rhoddodd yn ogystal un o’r bythynnod i Auguste Guyard. Yn 1895 ymwelodd Canon Harwicke Rawnsley, un o sefydlwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, â Fanny Talbot yn ei chartref yn Tŷ’n y Ffynnon, pan awgrymodd Fanny y byddai’n hoffi rhoi darn o dir â elwid yn Dinas Oleu, i’r Ymddiriedolaeth. Rai misoedd yn ddiweddarach, gwnaeth yr union beth, gan drosglwddo pedair erw, y darn cyntaf o dir i’w gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ffrancwr oedd Auguste Guyard â ymgartrefodd yn y Bermo tua 1870. Ymhlith ei ffrindiau roedd Victor Hugo, awdur Les Misérables a’r Hunchback of Notre Dame ac Alexander Dumas â ysgrifennodd The Three Musketeers a The Count of Monte Cristo. Roedd Lamartine, bardd enwog yn Ffrainc, ymhlith ei ffrindiau hefyd. Tra yn Ffrainc, ysgrifennodd Auguste ddarn i’w bapur lleol ynglŷn â hawliau’r gweithiwr, ac am fod y darn yn feirniadol o fywyd dan y brenin Louis Philippe, carcharwyd ef am ddwy flynedd. Yn dilyn ei ryddhau, daeth yn olygydd y papur newydd Le Bien Public. Perchennog y papur oedd Lamartine a bu’r papur yn ddylanwadol yn y broses o ddwyn i ben deyrnasiad Louis ac arwain at chwyldro 1848. Yn dilyn hyn, rhoes Guyard y gorau i wleidyddiaeth a symud i fyw i bentref bach o’r enw Frotey. Ei gynllun, tebyg iawn i arbrawf cymdeithasol Ruskin, oedd trosglwyddo Frotey yn iwtopia, a fyddai wedyn yn batrwm ar gyfer holl bentrefi Ffrainc. Am ei ymdrechion, dyfarnodd Napoleon III fedal aur iddo gyda mab Napoleon yn ei wobrwyo â medal arian. Doedd pawb ddim yn hapus fodd bynnag a chyhuddodd person y plwyf ef o ddiystyru awdurdod yr eglwys a bu rhaid iddo ddianc i Baris. Byr fu ei arhosiad ym Mharis fodd bynnag gan i’r ddinas ddod dan warchae yn sgil y rhyfel. Dianc unwaith eto, y tro yma i ddiogelwch Cymru; ond pam dewis y Bermo? Roedd mab Fanny Talbot wedi symud i Baris i astudio celf, lle cyfarfu a phriodi merch Auguste Guyard. Yn dilyn ei marwolaeth, priododd ei chwaer. Ar ôl i Auguste ddianc o Baris, rhoddodd Fanny Talbot fwthyn iddo. Yn y bwthyn, ar y graig uwchben y Bermo, y bu fyw tan ei farwolaeth. Crëodd y gerddi teras â welir hyd heddiw ac yn dilyn ei farwolaeth fe’i claddwyd uwchben y dref yn unol â’i ddymuniad. Gellir ymweld â’i fedd heddiw ac mae’r safle yn cael ei adnabod yn lleol fel Bedd y Ffrancwr.

Fanny Talbot

Auguste Guyard
Yn 1889, cyrhaeddodd y Dywysoges Beatrice y Bermo ar y trên, er mwyn gosod carreg sylfaen Eglwys Sant Ioan. Merch y Frenhines Victoria oedd y Dywysoges Beatrice.
Gwneuthurwr gynnau adnabyddus o Birmingham oedd W. W. Greener ac yn ôl y sôn, yn ystod y 1890au, roedd ar ei wyliau gyda’i wraig pan syrthiodd un o olwynion y cerbyd roeddynt yn teithio ynddo, i ffwrdd. Aeth Mr Greener i chwilio am saer olwynion yn y Bermo gan adael ei wraig ar ddarn o graig uwchben y môr. Tra’n eistedd yno, gwyliodd y machlud a phan ddychwelodd ei gŵr, soniodd wrtho am harddwch y machlud a sut y byddai’n hoffi byw yno. O ganlyniad i hyn, yn 1892, adeiladodd Mr Greener dŷ â adnabyddir heddiw fel Tŷ’r Graig (Y Castell Melyn i drigolion lleol). Wrth edrych i lawr ar yr adeilad mae’n cyffelybu i wn dwbl barel agored!
Yn 1982, bu William Gladstone a’i wraig am wythnos o wyliau yn y Bermo.

Y Dywysoges Beatrice

Tŷ’r Graig


William Gladstone
Commander Harold Godfrey Lowe RD
Ffawd fu’n gyfrifol am ddod ag enwogrwydd i Harold Lowe, gan iddo, ar Ebrill 15ed, 1912, fod yn rhan o’r trychineb morwrol enwocaf erioed. Roedd Harold Lowe yn bumed swyddog ar y Titanic pan suddodd ym Môr Iwerydd, ar ôl taro mynydd iâ. Cartref Harold oedd Penrallt y Bermo ac yno y datblygodd ei sgiliau trin cychod a hwylio. Yn ystod y drychineb, bu’n gyfrifol am fad achub rhif 14 ac ar y cychwyn ei gyfrifoldeb oedd helpu’r teithwyr i adael y llong gan sicrhau blaenoriaeth i wragedd a phlant, llwytho’r badau achub gydag hyd at 50 o bobl, cyn gostwng y badau i’r dŵr.
Eglurodd fod pob dyn yn wahanol o safbwynt nifer y teithwyr i’w cynnwys ond mai 50 fyddai’r cyfanswm fel rheol. Yn ystod yr ymchwiliad i’r drychineb, gofynnwyd i Harold ymhelaethu ar y pwynt yma. Ei ymateb oedd fod ambell un yn fwy parod i gymryd risg, tra nad oedd eraill mor barod i wneud. Ymunodd yr ail swyddog Lightoller a’r prif swyddog Wilde â’r pumed swyddog Lowe, i lwytho bad achub 14. Gadawodd Lightoller gan adael i Wilde roi’r gorchmynion o fwrdd y llong tra od Lowe yng ngofal y llwytho gan ganiatáu i 58 fynd ar y bad. Yn yr ymchwiliad, cytunodd ei fod wedi gorlwytho ac iddo fod yn ymwybodol iddo gymryd rhywfaint o risg.
Lansiwyd pum bad achub heb swyddogion ond penderfynodd Lowe a’r chweched swyddog Moody y dylai swyddog fod ar fad achub 14. Dywedodd Moody wrth Lowe I fynd a fydd o’n cael cwch arall, ond doedd o ddim. Gwragedd a phlant oedd ar fad achub 14, ag eithrio un dyn, yno i gynorthwyo gyda’r rhwyfo. Ar y funud olaf, mae’n debyg i Lowe ddarganfod Eidalwr wedi gwisgo fel merch gyda siôl dros ei ben. Tra roedd y bad yn cael ei ollwng i lawr heibio’r deciau agored, rhuthrodd nifer o Eidalwyr ymlaen a bu rhaid i Lowe, oedd yn pryderu eu bod am neidio ar y bad, danio ei bistol dair gwaith. Yn yr ymchwiliad gofynnwyd iddo a oedd wedi clywed y pistol yn tanio: “Do wrth gwrs, fi wnaeth danio’r ergydion!”
Unwaith yn y dŵr, rhwymodd Lowe bedwar o fadau wrth ei gilydd er mwyn ffurfio rafft i osod y goroeswyr arnynt, cyn mynd yn ôl i chwilio am fwy o oroeswyr. Lowe yn unig wnaeth hyn, gan i’r badau achub eraill ofni cael eu gorlethu gan y clwyfedigion. Achubodd Harold 4 bywyd arall ac am ei wrhydri, cyfeiriwyd ato fel Gwir Arwr y Titanic. Fo oedd yr unig un i godi hwyl ar ei fad achub a gellir gweld hyn yn glir yn y llun enwog o’r badau achub yn agosáu at y Carpathia. Gwelir y mast ar i fyny a Harold yn sefyll yn y cefn wrth y llyw.
Gyda’r ymchwiliadau drosodd, dychwelodd i’r Bermo, a’i groesawu yn ôl yn arwr, gyda derbyniad priodol wedi ei drefnu ar ei gyfer yn y Pafiliwn. Cyflwynwyd oriawr aur iddo i nodi’r achlysur ac ar yr oriawr roedd y geiriau (yn Saesneg): “Cyflwynwyd i Harold Godfrey Lowe, pumed swyddog ar yr RMS Titanic, gan ei ffrindiau yn y Bermo a thu hwnt, fel cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o’i ddewrder, yn dilyn suddo’r Titanic, 15eg Ebrill, 1912".

Harold Lowe

Cychod achub o'r Titanic
Uwchgapten Harold William “Bill” Tilman

Uwchgapten Harold William “Bill” Tilman CBE, DSO, MC and BAR
Ganwyd Bill Tillman yn 1898 ac yn syth ar ôl gadael yr ysgol yn 17, aeth i wasanaethu yn yr Artileri Brenhinol dros gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu’n ynnwr yn y ffosydd am dros dair blynedd. Ymladdodd ym mrwydr y Somme a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo ddwywaith am ei ddewrder. Yn dilyn y rhyfel, gadawodd y fyddin ac aeth i Affrica i weithio fel plannwr coffi, lle bu am ddeng mlynedd. Tra yno, cyfarfu ag Eric Shipton, a gyda‘i gilydd dringodd y ddau fynyddoedd uchaf Affrica megis Mynydd Kenya, Mynydd Stanley ym mynyddoedd y Ruwenzori a Kilimanjaro wrth gwrs. Yn ôl y chwedl, ar ddiwedd ei amser yn Affrica, neidiodd ar ei feic a seiclo ar draws y cyfandir o’r arfordir dwyreiniol i’r arfordir gorllewinol, lle daliodd long i hwylio adref.
Yn ystod y 1930au daeth yn un o’r prif fforwyr ym mynyddoedd yr Himalaya. Fo oedd y cyntaf i ddringo Nanda Devi a gwnaeth sawl taith i Everest. Ar gychwyn yr Ail Rhyfel Byd, er dros yr oedran, gwirfoddolodd gan wasanaethu yng Ngogledd Affrica ac yn dilyn hynny, fel rhan o’r Ymgyrchoedd Arbennig yn yr Eidal ac Albania, lle parasiwtiodd tu ôl i linellau’r gelyn, i weithredu gyda’r Gwrthsafiad. Am yr hyn â wnaeth yno, dyfarnwyd iddo fedal am wasanaeth hynod yn ogystal â rhyddfraint dinas Belluno yng ngogledd yr Eidal, dinas a gynorthwyodd i’w hachub rhag cael ei meddiannu a’i dinistrio.
Ar ôl y rhyfel, teimlodd ei fod bellach yn rhy hen i ddringo mynyddoedd uchel a chyfarfod â’r safonau uchel yr arferai osod iddo’i hun. Roedd Tilman yn ddringwr a morwr talentog ond yn bennaf oll, fforiwr oedd. Prynodd hen gytar o’r enw Mischief gan gychwyn ar deithiau hir gyda chriw bychan o’i ddewis. Hwyliodd i’r Arctig a’r Antarctig, y daith hiraf yn para blwyddyn a diwrnod!
Yn y 60au a’r 70au, pan nad oedd ar y môr, byddai’n byw gyda’i chwaer yn Bod Owen, Glandŵr, ar gyrion y Bermo. Bu’n llywydd ar Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn y Bermo. Yn 1977 cytunodd i fynd ar daith i ddeheudir Môr Iwerydd ac i ddringo Ynys Smith; tebygol mai dyna’r daith gyntaf iddo hwylio fel un o’r criw ac nid fel capten y llong. Cyrhaeddwyd Rio de Janeiro yn ddiogel ond ar y daith oddi yno i Ynysoedd y Falkland ym mis Tachwedd 1977, diflannodd y llong heb unrhyw olwg ohoni – tybiwyd iddi suddo gan golli pawb oedd ar ei bwrdd.
Ym mis Hydref 1923, ymwelodd y Tywysog Edward (Tywysog Cymru a’r brenin oedd yn ddiweddarach i ymwrthod â’r goron) â changen y Lleng Brydeinig yn y dref.
Ym mis Medi 1933, daeth David Lloyd George a’i briod i’r Bermo er mwyn agor yr amddiffynfeydd morol newydd ynghyd â’r promenâd. Yn ystod ei anerchiad i’r dyrfa, clywyd ganddo y geiriau canlynol, geiriau â ddyfynnwyd droeon ar ôl hynny: “Os bydd y Pwerau yn llwyddo i oresgyn Natsïaeth yn yr Almaen, beth ddaw wedyn? Nid llywodraeth Dorïaidd, Sosialaidd na Rhyddfrydol ond Comiwnyddiaeth eithafol. Nid dyna yw eu bwriad os bosib. Byddai Almaen Gomiwnyddol yn llawer mwy arswydus na Rwsia Gomiwnyddol.”

Twysog Edward

David Lloyd George

Johnny Williams
Os cerddwch i fyny i’r copa uwchben y Bermo, mi ewch heibio i adfail fferm Gellfechan. Dyma fan geni Johnny Williams, paffiwr proffesiynol yn y 40au a’r 50au. Gadawodd y Bermo yn ifanc, wrth i’w deulu symud i Rugby, lle tyfodd Johnny i fyny. Yn 1952 daeth yn bencampwr pwysau trwm Prydain a’r Gymanwlad.
Ganwyd Tommy Nutter yn y Bermo yn 1943 ond cafodd ei fagu yn Edgeware. Roedd yn enwog am ailddyfeisio y siwt Savile Row yn yr 1960au. Agorodd Nutters o Savile Row gyda chefnogaeth Cilla Black ac eraill. Roedd ei gwsmeriaid yn cynnwys Mick Jagger, Bianca Jagger ac Elton John. Fo fu’n gyfrifol am wisgo tri o’r Beatles ar gyfer eu halbwm enwog Abbey Road; dewisodd George Harrison wisgo denim! Nutter wnaeth gynllunio’r dillad ar gyfer y cellweiriwr, â chwaraewyd gan Jack Nicholson, yn y ffilm Batman yn 1989.

Tommy Nutter

Clawr Albwm Abbey Road
Y Dywysoges Diana a’r Tywysog Charles
Yn 1982, daeth y Dywysoges Diana i’r Bermo i enwi’r bad achub newydd, y Princess of Wales. Ar y pryd, roedd ar daith trwy Gymru gyda’r Tywysog Charles, yn dilyn eu priodas; enwi’r bad achub oedd un o’i dyletswyddau brenhinol swyddogol cyntaf.
Yn ystod blynyddoedd canol y 1980au, Roger Spencer, cefnder i’r Dywysoges Diana, oedd yr offeiriad yn Eglwys Gatholig Sant Tudwal y Bermo.
Ond nid dyna’r unig gyswllt gyda’r dref fach yma. Yn 1920 roedd yr Ail Farwn Fermoy, Edward FitzEdmund Burke Roche, yn westai yng ngwesty’r Minfor. Un bore wrth y bwrdd brecwast, dioddefodd drawiad ar y galon, a bu farw. Fe’i claddwyd yn Llanaber gan bedwar o weithwyr; doedd neb o’r teulu yn bresennol yn y gladdedigaeth. Roedd yn hen ewythr i’r Dywysoges Diana.
Y Dywysoges Anne
Yn 1987, ymwelodd y Dywysoges Anne â’r Bermo i gyfarfod â gwirfoddolwyr elusen Achub y Plant.
Y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana


Roger Spencer gyda Sybil Williams

Y Dywysoges Anne
Pennod Blaenorol: Y Dref
Bennod Nesaf: Mythau a Chwedlau