top of page
Barmouth-Town-Council-Logo.png

Pennod Blaenorol: Pobl Nodedig

Mythau, Chwedlau a Straeon Gwir

Y Diamond

Roedd y Diamond yn rigiwr sgwâr tri mast a adeiladwyd yn Ninas Efrog Newydd ym 1823.  Suddodd ar y ffordd i Lerpwl o Efrog Newydd ar 2 Ionawr 1825 ar ôl gwrthdaro â Sarn Badrig, rîff naturiol sy’n ymestyn allan tua 8 milltir i'r môr o Fochras. Roedd yna 38 o deithwyr ar fwrdd y llong; bu farw 8 ohonynt. Roedd yna hefyd lwyth o gotwm, lludw pot ac afalau.

Golchwyd y rhan fwyaf o'r cargo i’r lan ar hyd Lein yr Arfordir ger Dyffryn Ardudwy. Plannwyd hadau afal o'r cargo yng ngardd Tŷ Canol, tŷ yn Nyffryn Ardudwy. O'r hadau hyn tyfodd perllan afalau gyda deg coeden ynddi, ac fe gynhyrchodd y coed hynny lawer iawn o afalau coginio ac afalau bwyta. Roedd sawl cenhedlaeth o'r un teulu yn byw yn y tŷ, ac yn ystod ei chyfnod yno byddai Blodwen Davies yn adrodd hanes y coed i'w hwyrion a sut y cawsant eu gwerthu'n lleol fel Afalau Y Diamond ar ôl y llong. Mae’r math hwn o afalau yn brin iawn i lannau'r DU.

 

Ffosycutiau

Wrth i chi adael Y Bermo a theithio tua'r dwyrain, byddwch yn teithio ar hyd y ffordd syth a elwir yn Glandŵr. Ar ddiwedd y darn syth mae melin ar y chwith, ac uwchlaw'r felin yn y bryniau mae pentrefan a elwir yn Cutiau. Roedd y felin yn cynhyrchu blawd a gludwyd mewn cwch ac roedd ganddi ei glanfa ei hun o'r enw Ffosycutiau. Roedd iard longau yno hefyd a defnyddiodd ffermwyr lleol y lanfa i gludo nwyddau. Rhoddodd cilfach fynediad i'r lanfa o afon Mawddach. Gydag ail-alinio'r ffordd i'r lan adeiladwyd pont dros afon Dwynant a gaeodd y gilfach ac, ar yr un pryd, atal mynediad at y lanfa. Roedd hefyd yn atal ffermwyr lleol rhag llwytho a dadlwytho eu nwyddau. Daeth hyn â’r gwaith adeiladu llongau i ben ond roedd y ffermwyr yn parhau i lwytho a dadlwytho o'r bryncyn wrth ochr y ffordd.

Yn 1877 gwrthwynebodd perchennog y bryncyn hyn, a dechreuodd achos cyfreithiol yn erbyn y bobl leol. Clywodd bargyfreithiwr o Lundain oedd yno ar ei wyliau am yr achos, ac oherwydd ei fod yn credu nad oedd hyn yn deg i'r bobl leol, penderfynodd weithredu ar eu rhan ac enillodd yr achos. Rhoddodd ffermwyr lleol fel Robert Williams o Tyddyn Pandy a  Robert Williams  o Gaehir dystiolaeth, y  cyntaf yn tystio ei fod yn cofio mynediad at y lanfa a'r defnydd ohoni ers ei blentyndod, a  fyddai wedi bod yn yr 1800au cynnar. Roedd perchennog y tir yn gynddeiriog ar ôl colli’r achos, ac aeth  i mewn i Gapel Cutiau yn ystod gwasanaeth a datgan "Ni fyddwch byth yn addoli yn y lle hwn eto!" Yna, fe daflodd holl denantiaid y bythynnod o’u cartrefi a llawer o denantiaid eraill o’u heiddo. Newidiodd Cutiau o fod yn lle prysur i ddim byd bron dros nos; dywedwyd bod 100 o bobl yn mynd i'r capel a disgynnodd y nifer hwnnw i lond llaw yn unig o addolwyr. Gwagiwyd yr anheddau. Caeodd y capel yn y 90au; roedd teulu lleol yn addoli yno o hyd.

10-01.jpg

Melin Flawd Glandŵr 1885

Coes Faen 1880

10-02.jpg

Coes Faen

Mae llawer un nodedig wedi bod yn berchen ar Coes Faen dros y blynyddoedd. Un perchennog oedd Charles Lowe a'i adnewyddodd; nid oedd gan y tŷ dŵr cloc yn wreiddiol. Tŷ llys gyda chelloedd oedd yr adeilad yn wreiddiol. Byddai carcharorion yn cael eu cludo mewn cwch i mewn o dan y tŷ i gelloedd yn y dwnsiwn. Roedd y llys yn rhan uchaf y tŷ. Yn ôl y chwedl, mae yna dwnnel sy'n mynd o'r tŷ ac o dan y ffordd yn dod allan yn yr iard gyferbyn. Ei bwrpas oedd caniatáu i farnwyr oedd yn ymweld gyrraedd yr iard mewn coets a phasio'n ddiogel i'r ystafell llys o olwg y cyhoedd.

Y Syrcas

Yn 1890 daeth Syrcas Sangers i'r dref. Cyrhaeddodd y syrcas mewn gorymdaith o amgylch Aberamffra a thrwy Stryd yr Eglwys. Eliffantod oedd yn arwain yr orymdaith ac fe’u gwelwyd hefyd ar y traeth yma yn Y Bermo. Yn anffodus bu farw un o'r eliffantod tra’r oedd yma ac fe'i gladdwyd yng Nghae Glas, sef y gerddi gyferbyn â'r Last Inn.

10-03.jpg

Syrcas 1890

10-04.jpg

Eliffantod ar y traeth 1890

10-05.jpg

Cae Glas

Ysbryd Min y Môr

Anfonwyd Blodwyn Griffiths ifanc i'r Bermo i roi genedigaeth i'w baban anghyfreithlon, canlyniad perthynas gyda Bonheddwr Seisnig. Cafodd ei gorfodi i wasanaethu fel nyrs feithrin i gigydd lleol oedd â saith o blant. Un o'i thasgau oedd mynd â'r ddau blentyn ieuengaf i Min Y Môr, oedd yn gwasanaethu fel ysgol ar y pryd. Unwaith yno, roedd hi i ganu'r gloch yn y tŵr i alw'r plant i'r dosbarth. Wrth ddringo'r grisiau fe ollyngodd ei babi a ildiodd i'w anafiadau wythnos yn ddiweddarach. Ni wellodd Blodwyn o'r trawma ac yn 1889 ni allai ymdopi â'i heuogrwydd a'i galar mwyach. Un noson lom a diflas ym mis Tachwedd fe'i gwelwyd yn cerdded i lawr i'r lan lle plygodd i lawr a chodi plentyn bach. Gyda’r plentyn yn ei dwylo parhaodd i gerdded nes iddi ddiflannu o dan y tonnau. Hyd heddiw pan fydd y niwl y môr yn ymestyn dros y dref bydd pobl yn honni eu bod yn clywed cloch yr ysgol yn canu.  

10-06.jpg

Min y Môr 1907

10-07.png

Min y Môr 1912

Y Telynor Dall – Telynor Mawddwy

Roedd Dafydd Roberts yn hanu o Lannerch, Llanymawddwy ac yn ddisgynnydd teuluoedd hynod ddiwylliedig a cherddorol ar y ddwy ochr. Yn 6 oed daliodd y frech goch a bu’n ddall am weddill ei oes. Dysgodd ei grefft gartref ac yn y capel, a daeth i’r brig mewn sawl Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n diwtor i nifer o gantorion i gyd-fynd â'r delyn. Yn 1909 symudodd i'r Bermo a byddai'n cario ei delyn ar ei ben ei hun yn rheolaidd i'r prom lle byddai'n diddanu trigolion a'r ymwelwyr fel ei gilydd.

10-08.jpg

Telynor Mawddwy 1911

Dafydd Roberts 1930au

10-09.jpg

Anghenfil môr Y Bermo

Ers canrifoedd mae rhai’n honni iddynt weld creadur rhyfedd yn y dyfroedd o amgylch Y Bermo. Gwelwyd olion traed mawr yn y tywod yn Aber Mawddach ac yn Llanaber gydag adroddiadau eraill o wrthrych mawr yn cael ei gario trwy’r tonnau ar gyflymder. Yn y 1970au roedd grŵp bach o ferched ysgolion uwchradd lleol yn chwarae triwant ar draeth Y Bermo. Ar ôl cael eu ceryddu mi honnodd y merched eu bod wedi gweld creadur rhyfedd yn agosáu at Harbwr Y Bermo. Daeth hyn yn newyddion dros y byd ar y pryd, ac ychwanegwyd at fwrlwm y stori pan olchodd corff crwban enfawr wedi pydru i’r lan, ond 30 mlynedd ar ôl y digwyddiad penodol hwn cyfaddefodd un o'r merched wrth ffrind nad oedd gwirionedd i’w stori.

 

Cargo Cudd

Y tu allan i Eglwys y Santes Fair mae beddau gyda slabiau mawr ar draws y top. Pan fyddai llongau neu longddrylliadau yn colli eu cargo, a’r rheiny’n cael eu golchi i’r lan ar y traeth rhwng Llanaber a Thal-y-bont, byddai pobl leol yn symud y slab ac yn cuddio'r cargo y tu mewn i'r bedd o olwg y swyddogion Tollau Tramor a Chartref a oedd yn chwilio amdano.

 

Goleuadau Egryn

Pentref i'r gogledd i’r Bermo yw Tal-y-bont. Rhwng y ddau mae capel o'r enw Egryn. Yn gynnar ym mis Rhagfyr 1904 roedd adfywiad crefyddol yn lledu drwy’r wlad ac roedd Mary Jones o Islawrffordd yn gwneud ei gwaith adfywio yng  Nghapel Egryn. Tra yno, gwelodd fwa awroraidd gyda seren arni yn ymestyn o'r mynydd i'r môr. Yn ddiweddarach yn y mis gwelodd dri unigolyn olau mawr i'r de o Gapel Egryn gyda “photel neu berson du” yn y canol a “rhai goleuadau bach yn gwasgaru o gwmpas y golau mawr mewn sawl lliw gwahanol”. Yn gynnar ym mis Ionawr 1905 cafwyd adroddiad gan ddyn ei fod yn gweld tri golau uwchben ffermdy a gwelodd ddynes oleuadau rhwng Dyffryn a Llanbedr. Cafwyd adroddiadau tebyg eraill o bob cwr o Wynedd yn ystod misoedd cyntaf 1905. Adroddodd Mary Jones ei bod wedi gweld y goleuadau sawl gwaith a bod Crist a Satan wedi ymddangos ar ffurf ci du. Gwelodd Beriah Evans bum golau unigol pan oedd yng nghwmni Mary Evans rhwng Islawrffordd a  Chapel Egryn. Roedd y goleuadau'n ymddangos lle bynnag byddai Mary Jones yn mynd ac roedd fel petai'n cryfhau'r adfywiad crefyddol. Ymddangosodd y goleuadau yn Llanfair, Bryncrug, Pwllheli, Towyn, Froncysyllte, Wrecsam ac Ystrad yn y Rhondda; a phob un ar yr un pryd ag yr oedd Mary Jones yn y lleoedd hyn.

Anfonwyd gohebwyr o'r Daily Mail, y Guardian, y Daily Telegraph a'r Daily Mirror a oedd yn ddrwgdybus iawn, ond cyn bo hir roedd y rheiny yn anfon adroddiadau o'r goleuadau at eu papurau, ar ôl eu gweld eu hunain. Roedd llawer o dystion i'r goleuadau hyn a ddigwyddodd yn 1904 a 1905. Yn ei blynyddoedd olaf enciliodd Mary a dywedwyd iddi droi ei chefn ar grefydd. Yn 1936 bu farw a chladdwyd hi ym mynwent Horeb, Dyffryn, yn un o'r angladdau mwyaf a welwyd yng ngogledd Cymru. Ond nid dyma'r goleuadau rhyfedd cyntaf a welwyd yn yr ardal. Yn Harlech yn 1662 gwelwyd goleuadau rhyfedd a oedd yn ôl pob sôn yn llosgi cnydau ac ysguboriau ac yn heintio glaswellt, yna yn 1877 gwelwyd goleuadau glas dros Bwllheli ac  Aber Dysynni.

10-10.jpg

Capel Egryn 1904

10-11.png

Fiddler's Elbow 1896

Belle View 1859

10-12.jpg

Dynes Lwyd Fiddler’s Elbow

Yn yr hen ddyddiau roedd ysbryd dynes mewn ffrog lwyd yn crwydro ar hyd y ffordd droellog i Bontddu, a elwir yn Fiddler’s Elbow, a welir ar ochr Dolgellau.  Dywedwyd iddi beri i geffylau garlamu’n orffwyll os nad oedd hi'n cymeradwyo'r cargo, fel alcohol, tybaco neu gyffuriau. Estynnwyd hyn hefyd i foesau'r gyrrwr.

Llofruddiaeth erchyll

Mae llofruddiaeth yn y Bermo yn hynod o brin yn enwedig yn hanesyddol. Fodd bynnag, tua 200 mlynedd yn ôl, cafodd gemydd ei drywanu gan ei was ym Mhlasty Belle View (yr adeilad mawr y tu ôl i Gaffi Carousel). Dywedir bod ôl llaw gemydd yn ymddangos ar y cwarel o wydr lle cafodd ei ladd, nawr a phryd hynny. Mae hyn er bod y gwydr wedi ei newid nifer o weithiau.

Glaswellt Y Bermo yw'r glaswellt gorau

Cymerwyd hadau glaswellt o gae pêl-droed Y Bermo i helpu i adfer cae Wembley. (Efallai mai dyna pam ei fod yn cael ei alw'n “sacred turf”?!!)

Cerrig y Brenin Arthur

Mae'n bosibl mai'r cylch ger fferm Sylfaen yw'r cerrig sy’n nodi mynedfa safle gwreiddiol Eglwys y Santes Fair a Sant Bodfan.

Cythraul y Santes Fair

Dywedir bod cythraul yn aflonyddu cyntedd Eglwys y Santes Fair a Sant Bodfan, Mae’n ceisio mynd i mewn i'r eglwys ond ni all groesi'r trothwy. Wrth adael yr eglwys yn ystod y nos, wrth i chi gerdded drwy'r fynwent, cadwch eich cefn at yr eglwys a daliwch ati i gerdded, daliwch ati i gerdded. Peidiwch byth â chael eich temtio i edrych yn ôl ar yr eglwys, gan fod pobl sydd wedi gwneud hynny yn dweud eu bod wedi gweld cythraul heb wyneb yn eu bygwth. Roedd tafarn o'r enw Hen Dafarn Bryn Gwynt y tu ôl i'r eglwys ers talwm, felly efallai mai'r llwybr byr adref drwy'r fynwent, ar ôl llymaid neu ddau yn ormod, oedd yn gyfrifol am y golygfeydd hyn.

10-13.jpg

Eglwys y Santes Fair

10-14.jpg

Y llwybr yn arwain o’r eglwys

10-15.jpg

Carreg gleddyf wastad

10-16.jpg

Carreg gleddyf ar ei hochr

Cerrig y Cledd

Yn uchel i fyny yn y bryniau uwchben Y Bermo mae dau slab mawr o graig, un yn gorwedd ar ei hochr ac un ar ei chefn. Maen nhw’n eistedd yng nghanol cae. Yr hyn sy'n gwneud y cerrig hyn yn arbennig yw bod gan bob un argraff o gleddyf ynddi. Mae yna lawer o ddamcaniaethau am hyn, ond mae dwy stori boblogaidd yn sefyll allan. Un yw'r cleddyf yn y garreg a chwedl y Brenin Arthur, sy’n cyd-fynd â Cherrig y Brenin Arthur gerllaw. Y stori arall, sy’n fwy cyfarwydd, yw bod yr Ordofigiaid (Llwyth Celtaidd, dan arweiniad Bendigeidfran) wedi brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid yn 76OC. Cynhaliwyd y frwydr drwy gydol y dydd ar “faes cleddyfau”. Roedd yr Ordofigiaid (y Brythoniaid hynafol/y Cymry gwreiddiol) yn fwy niferus na’r Rhufeiniaid, ond roedd gan y Rhufeiniaid well arfau. Ar ôl brwydro drwy'r dydd cytunodd y penaethiaid ar heddwch ac fel addewid y byddent yn cadw at y cytundeb, taflodd Bendigeidfran ei gleddyf i’r awyr. Wrth iddo lanio fe rannodd y graig yn ddwy gan adael amlinelliad cleddyf sydd i'w weld hyd heddiw.

Dwy ddamwain trên

Os edrychwch tuag at Fairbourne fe welwch Friog lle mae'r pentref yn cwrdd â'r clogwyni ac yn rhedeg ar hyd yr arfordir. Mae'r rheilffordd yn rhedeg ar hyd y clogwyni hyn o Fairbourne i Lwyngwril a gellir gweld rhan o dwnnel o'r Bermo. Dyma lle digwyddodd dwy ddamwain trên ar wahân mewn amgylchiadau tebyg gyda chanlyniadau tebyg. Ar Ionawr 1af 1883 gadawodd locomotif Machynlleth am Ddolgellau lle'r oedd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal. Enw'r injan oedd Pegasus ac fe'i gyrrwyd gan William Davies. Wrth iddo nesáu at Friog, lle mae'r rhan o'r twnnel nawr, arafodd. Wrth iddo gyrraedd y gogwydd ar y darn mwyaf peryglus, disgynnodd sawl tunnell o bridd a chraig ar y cledrau. Daeth y Pegasus oddi ar y cledrau a disgyn i'r môr, gan ladd William a'i ddyn tân. Yn ffodus iawn, torrodd y cyplyddion oedd yn cysylltu Pegasus â’r cerbydau ac arbedwyd y teithwyr.

Yna hanner can mlynedd yn ddiweddarach yn 1933 wrth i’r trên teithwyr a phost 0610 o Fachynlleth i Bwllheli agosáu at yr un man, lle digwyddodd y trychineb hanner can mlynedd ynghynt, dechreuodd dwy fil tunnell o ddaear a chraig symud. Roedd y trên wedi arafu i bymtheg milltir yr awr a chyd-darodd â’r tirlithriad. Codwyd yr injan dros wal y parapet a’i droi, a daeth yn rhydd o’r cerbydau, gan arbed y teithwyr eto. Glaniodd yr injan ar y traeth a lladdwyd y gyrrwr a'r dyn tân ar unwaith.

10-17.jpg

Damwain trên 1883

10-18.png

Damwain trên 1933

Pennod Blaenorol: Pobl Nodedig

bottom of page