top of page
Barmouth-Town-Council-Logo.png

Diogelwch Traeth Abermaw

RNLI.png

Mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu gan yr RNLI i'ch helpu i gadw'n ddiogel ar y traeth.

Mewn Argyfwng

Os byddwch yn gweld person neu anifail mewn trafferth:

DEIALWCH 999
gofynnwch am Wylwyr y Glannau a disgrifiwch yr argyfwng a’r lleoliad

Bydd gwylwyr y glannau’n gofyn am y lleoliad i helpu bad achub yr RNLI i ddod o hyd i’r sawl sydd mewn trafferth a’i achub yn gyflym.

Safety Signs cym.png

Os ydych ger un o arwyddion diogelwch yr RNLI (a ddangosir uchod), bydd eich union leoliad i’w weld ar ddwy ochr yr arwydd, ar y top, ar ffurf Cyfeirnod Grid wyth digid.

Yn yr enghraifft hon, y Cyfeirnod Grid yw SH61151573.

Mae traeth Abermaw yn ardal hyfryd o dywod euraid a dŵr y mae pawb yn ei mwynhau a’i gwerthfawrogi. Fel sy’n wir am bob traeth yn y Deyrnas Unedig, dylech ddilyn cyngor diogelwch sylfaenol i aros yn ddiogel ac osgoi damweiniau.

Mae Cyngor Tref Abermaw, ar y cyd â’r RNLI, wedi cynhyrchu’r llyfryn hwn i helpu ymwelwyr â thraeth a harbwr Abermaw i fwynhau’r cyfleusterau hyfryd a’r dŵr yn ddiogel.

Mae’r llyfryn yn esbonio’r peryglon posibl a achosir gan y tywydd a’r llanw ac yn rhoi cyngor diogelwch sylfaenol ar sut i leihau unrhyw risg i’r eithaf a mwynhau’r traeth yn ddiogel.

Tymheredd Môr Abermaw

Mae tymheredd y môr ar arfordir Abermaw yn gallu amrywio o 7°C yn y gaeaf i 16°C yn yr haf. Mae unrhyw beth o dan 15°C yn cael ei ddiffinio fel dŵr oer.  Gall mynd i mewn i ddŵr 15°C ac oerach yn gyflym ac yn annisgwyl achosi i’r corff fynd i sioc dŵr oer sy’n gallu arwain at foddi.

Sioc Dŵr Oer

Gall sioc dŵr oer arwain at ebychu am aer yn ddireolaeth, ac yna goranadlu. Mae hyn golygu’n aml y bydd y person yn mewnanadlu dŵr. Fe allai ei gyhyrau fferru hefyd, gan wneud symud yn amhosibl. Gall sioc dŵr oer hefyd gynyddu pwysedd gwaed yn gyflym, gan arwain at strôc neu ataliad y galon.

Mae’r holl ymatebion hyn yn cyfrannu at deimlad o banig, gan gynyddu’r tebygolrwydd o fewnanadlu dŵr yn syth i’r ysgyfaint. Gall hyn i gyd ddigwydd yn gyflym iawn. Fe allai’r rhan fwyaf o farwolaethau ddigwydd yn ystod y cam sioc dŵr oer yn yr ychydig funudau cyntaf o fod yn y dŵr.

Bu farw 226 o bobl yn y Deyrnas Unedig trwy foddi ar ddamwain yn 2022, ar draws lleoliadau mewndirol ac arfordirol. Nid oedd 40 y cant o’r bobl a fu farw wedi bwriadu mynd i mewn i’r dŵr, fel pobl a oedd yn cerdded, a aeth i mewn i’r dŵr trwy lithro, baglu a chwympo, cael eu hynysu gan y llanw, neu gael eu hysgubo drosodd gan y tonnau.

Cyngor ar nofio mewn dŵr oer

Cyn i chi fynd i mewn i’r dŵr yn Abermaw: -

  • Aseswch yr amodau. Os yw’r dŵr yn rhy arw ar gyfer nofio, peidiwch â mynd i mewn.

  • Ystyriwch eich gallu – yn dibynnu ar yr amodau, efallai bydd angen i chi nofio llai neu’n agosach i’r lan.

  • Dywedwch wrth rywun ar y lan eich bod yn mynd i’r dŵr. Bydd yn gallu galw am help os byddwch mewn trafferth.

  • Gwiriwch amserau’r llanw cyn mynd i mewn i’r dŵr.

  • Darllenwch am gerhyntau terfol a sut i’w hadnabod.

  • Peidiwch byth â nofio ger ceg yr harbwr. Nid yw’r cerhyntau mor gryf yn yr ardal ymhellach i’r gogledd o’r harbwr, fel arfer.

 

Mae’n bwysig iawn mynd i mewn i’r dŵr yn araf a rhoi amser i’ch corff ddod yn gyfarwydd â’r oerfel. Peidiwch byth â neidio neu blymio’n syth i mewn, oherwydd fe allai hyn achosi Sioc Dŵr Oer.
 

Sblasiwch y dŵr oer ar eich gwddf a’ch wyneb i’ch helpu i gynefino. Ceisiwch beidio â dal eich anadl am gyfnod hir pan fyddwch yn mynd i mewn i’r dŵr gyntaf. 

Pan fyddwch yn y dŵr, cofiwch y gall ymdrochi mewn dŵr oer effeithio’n ddifrifol ar eich gallu i nofio. Arhoswch o fewn eich dyfnder a nofiwch yn baralel i’r lan. Gall y gwynt a cherhyntau eich gwyro o’ch trywydd, felly cadwch lygad ar eich pwynt gadael a gwnewch yn siŵr y gallwch ddychwelyd iddo.

Arnofio i Fyw

Os byddwch mewn trafferth yn y dŵr:

 

  • Arhoswch yn ddigyffro a dechreuwch y broses Arnofio i Fyw

  • Pwyswch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr

  • Ymlaciwch a cheisiwch reoli’ch anadl

  • Defnyddiwch eich dwylo i’ch helpu i arnofio

  • Peidiwch â phoeni os bydd eich coesau’n suddo, rydyn ni i gyd yn arnofio’n wahanol

  • Pan fyddwch wedi dod trwy’r sioc gychwynnol ac yn anadlu’n rheolaidd, galwch am help neu nofiwch i ddiogelwch os gallwch.

Float to Live.jpg

Cerhyntau

Mae amrywiaeth o gerhyntau yn Nhraeth Abermaw sy’n drwm dan ddylanwad uchder y llanw a’r tywydd, fel gwasgedd aer a chyflymder y gwynt. Mae’r cerhyntau hyn yn cynnwys cerhyntau llif llanw a cherhyntau terfol.

Ceryntau Llif Llanw

Mae Cerhyntau Llif Llanw yn cael eu cynhyrchu gan y llanw a’r trai. Mae cryfder y cerhyntau hyn yn gallu amrywio yn ôl uchder y llanw (sydd dan ddylanwad gweddau’r lleuad), a’r tywydd.

Y Llanw

Gall y llanw symud yn eithaf cyflym dros y rhannau mwy gwastad o dywod, ac fe all droelli o amgylch y bariau tywod gan ynysu pobl sy’n torheulo oddi wrth y prif draeth.

Dylech edrych ar y tabl llanw ar gyfer y dydd i ddeall pryd bydd y llanw’n isel ac yn uchel fel y gallwch gadw llygad ar y llanw sy’n codi. Mae amserau’r llanw uchel ac isel ar gael ar-lein, neu ar y siart y tu allan i swyddfa’r harbwrfeistr.

Os byddwch yn sylweddoli eich bod ar far tywod a bod y llanw’n bygwth eich amgylchynu, cerddwch tuag at y lan os yw’r dŵr yn fas, mor gyflym â phosibl, gan sicrhau eich bod yn aros ar eich traed. Os ydych mewn perygl, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

Y Perch

Mae ynys fach nid nepell o’r traeth o’r enw Y Perch y mae llawer o bobl yn hoffi cerdded tuag ati pan fydd y llanw’n isel ac weithiau padlo neu dorheulo ar y bar tywod cysylltiedig.

Mae’r ynys i gyd o dan y dŵr pan fydd y llanw’n uchel ac mae angen bod yn ofalus iawn i osgoi cael eich ynysu wrth i’r llanw ysgubo o amgylch cefn yr ynys.

Y Perch ar Lanw Uchel

Y Perch High.jpg
Y Perch Low.jpg

Y Perch ar Lanw Isel

Y Perch currents cym.png

Ceryntau o amgylch Y Perch

Yn agos i geg yr harbwr yn yr ardal rhwng y traeth a’r Perch, gall cerrynt o’r dde i’r chwith ddigwydd wrth i’r môr ddilyn y llwybr cyflymaf i fynd ar drai yn sianel ddyfnach yr aber. Yn gyffredinol, mae’n fwy diogel ymdrochi a nofio ymhellach i’r gogledd, ar hyd y traeth i ffwrdd oddi wrth yr aber.

Cerhyntau Terfol

Cerhyntau cryf sy’n mynd allan i’r môr yw’r rhain, sy’n gallu eich tynnu’n gyflym o’r dŵr bas allan o’ch dyfnder

 

Ar hyd y prif draeth, mae cyfres o fanciau tywod ar y môr sy’n gallu amrywio o ran safle a maint o ganlyniad i’r llanw a’r tywydd. Mae’r tonnau’n tueddu i dorri ar y banciau tywod hyn, ond nid ar y bylchau rhyngddynt.

Mae llawer o ymwelwyr â’r traeth yn hoffi mynd i mewn i’r dŵr i badlo a nofio yn yr ardaloedd o ddŵr llonydd lle nad yw’r tonnau’n torri.

Fodd bynnag, bydd y tonnau sy’n torri dros y banciau tywod yn llifo’n ôl i’r môr yn y bylchau rhyngddynt, gan achosi cerrynt terfol a allai gario rhywun ymhellach i ffwrdd oddi wrth y draethlin.

Rip 1 cym.png
Rip 2 cym.png

Os cewch eich dal mewn cerrynt terfol:

  • Pwyllwch – peidiwch â mynd i banig

  • Os gallwch sefyll, cerddwch drwy’r dŵr, peidiwch â nofio

  • Os byddwch mewn dŵr dwfn, nofiwch yn baralel i’r traeth nes i chi ddod yn rhydd o’r cerrynt terfol, yna defnyddiwch y tonnau i’ch helpu i gyrraedd y lan

  • Os byddwch mewn trafferth, daliwch afael yn eich dyfais arnofio (os ydych yn defnyddio un) neu gwnewch yr ystum Arnofio i Fyw, codwch un llaw a gweiddwch am help.

Rip 3 cym.jpg

Harbwr Abermaw

Mae harbwr Abermaw mewn lleoliad hardd a deniadol wrth aber Afon Mawddach gyda golygfeydd o fynyddoedd Cader Idris a phont a thraphont hanesyddol Abermaw. Mae’r harbwr yn boblogaidd ymhlith amrywiaeth o bobl sy’n hoffi mynd ar y dŵr, o badlfyrddwyr i forwyr cychod hwylio.

Harbour1.png
Harbour2 cym.png

Er mwyn mwynhau ardal yr harbwr yn ddiogel, mae’n bwysig deall y peryglon posibl sy’n gallu bodoli.

Mae gwely’r harbwr wedi’i orchuddio gan haen ddofn o silt mân a mwd gludiog. Mewn rhai ardaloedd, gall symudiad y llanw wneud i’r silt yma weithredu fel traeth byw, gan achosi i bobl anwyliadwrus gael eu dal yn y mwd, ar drugaredd y llanw sy’n codi ac angen help gan dîm achub o’r mwd Gwylwyr y Glannau a’r bad achub.

Peidiwch â cheisio cerdded ar wely’r harbwr pan fydd y llanw’n isel.

 

Gall silt yr harbwr orchuddio llawer o beryglon cudd a adawyd gan ganrifoedd o forgludiant a defnyddio cychod sy’n gallu anafu pobl anwyliadwrus.

Peidiwch â neidio i mewn i’r harbwr o wal yr harbwr.

Mae Afon Mawddach yn llifo’n syth i’r aber a’r harbwr, gan dorri sianel ddofn sy’n ymlwybro trwy’r harbwr cyn llifo allan i’r môr, trwy fynedfa’r harbwr. Mae glawiad o’r mynydd ac uchder y llanw’n dylanwadu ar gyflymder y cerrynt, ond mae’n aml yn 7-8 not, sy’n gyflymach o lawer nag y gall rhywun nofio.

Bydd unrhyw un sy’n ceisio nofio yn y cerrynt hwn yn cael ei ysgubo allan i’r môr yn gyflym a bydd angen iddo gael ei achub gan fad achub.

Peidiwch â nofio yn ardal yr harbwr. Mae’r cerhyntau’n rhy gryf

Teganau Aer, Padlfyrddio & Cwch

Teganau Aer

Mae traeth Abermaw yn wynebu tua’r gorllewin yn gyffredinol, a’r rhan fwyaf o’r amser bydd y gwyntoedd de-orllewinol yn chwythu o’r môr ar y traeth. Ond, weithiau, gall y gwynt chwythu o’r dwyrain tua’r môr.

Pan fydd hyn yn digwydd, mae perygl o gael eich chwythu allan i’r môr yn gyflym ar unrhyw fad heb fotor. Y rhai mwyaf peryglus yw cychod a theganau aer oherwydd mae’n rhwydd iddynt gael eu cario gan y gwynt.

Peidiwch â defnyddio teganau aer yn y môr. 

Mae teganau a gwelyau aer wedi’u dylunio ar gyfer pyllau, nid y môr, lle gallant gael eu hysgubo allan yn rhwydd. Mae hyn yn arbennig o beryglus i blant neu unrhyw un nad yw’n nofiwr cryf.

Inflat1 cym.jpg

Os penderfynwch ddefnyddio teganau aer ar y traeth: -

  • Edrychwch ar unrhyw faneri sy’n chwifio, fel wrth yr Orsaf Bad Achub, i weld a ydynt yn pwyntio tuag at y môr, sy’n dangos gwynt o’r lan. Peidiwch â mynd â’r ddyfais ar y dŵr.

  • Dylai rhieni glymu cortyn hir wrth y tegan aer a chadw rheolaeth ar y pen arall fel y gallant ei dynnu’n ôl i mewn os bydd yn mynd yn rhy bell.

  • Gwnewch yn siŵr fod plant yn cael eu goruchwylio’n ofalus a’u cadw’n agos i’r lan

  • Dilynwch gyngor Warden y Traeth bob amser

  • Peidiwch â mynd â theganau aer allan mewn tonnau mawr

  • Os byddwch mewn trafferth, arhoswch gyda’ch tegan aer oherwydd bydd yn eich cadw uwchben y dŵr nes y gellir lansio’r bad achub.

Gall teganau aer sydd wedi’u gadael heb neb i ofalu amdanynt neu sy’n wag chwythu allan i’r môr yn rhwydd, gan arwain yn aml at alwadau diangen i’r bad achub ymchwilio.

Pan na fydd teganau aer yn cael eu defnyddio, gollyngwch yr aer ohonynt er mwyn atal y gwynt rhag eu chwythu i ffwrdd.

Inflat2.png

Padlfyrddio a Syrffio

Paddle cym.jpg

Hwylio

Boat Safety cym.png

Eich rhestr wirio ar gyfer mynd ar y môr

P’un a ydych yn mynd ar y môr mewn bad â motor neu hwyliau, gwnewch yn siŵr:

  • eich bod yn gwisgo siaced achub neu gymorth hynofedd

  • bod gennych fodd o alw am help

  • bod gennych angor priodol sy’n dal

  • eich bod yn gallu adnabod eich lleoliad

  • eich bod yn defnyddio cortyn diffodd (lle y bo’n briodol ar gyfer eich bad).

 

I gael awgrymiadau da a chyngor yr RNLI i bobl sy’n mynd mewn badau, ewch i rnli.org/StayAfloat

Pigiadau

Sting cym.png
bottom of page